Cynorthwyydd Cyllid a Chyfarwyddiaeth (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Company: The Open University
Apply for the Cynorthwyydd Cyllid a Chyfarwyddiaeth (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
Location: Cardiff
Job Description:

Cynorthwyydd Cyllid a Chyfarwyddiaeth (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byrhwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd chi i wefan YouTube).

Y Rl

Fel Cynorthwyydd Cyllid a Chyfarwyddiaeth, byddwch yn darparu cymorth gweithredol, gweinyddol a sefydliadol ym mhob rhan o'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Gan adrodd yn uniongyrchol i Gynorthwyydd Gweithredol y Cyfarwyddwr, mae'r rl hon yn un amrywiol a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Gyfarwyddiaeth a gweithgarwch rheoli ariannol yn effeithiol. Gan weithio'n agos gydag uwch-reolwyr, deiliaid cyllidebau ac aelodau'r Uwch-dm Arwain, byddwch yn cefnogi prosesau rheoli ariannol, yn cydlynu gweithgarwch allweddol y Gyfarwyddiaeth, yn rheoli blychau post a rennir ac yn cyfrannu at weithrediadau busnes ar draws timau yng Nghymru.

Cyfrifoldebau Allweddol

Cymorth Rheoli Cyllid

  • Darparu cymorth gweithredol i weithgarwch sy'n gysylltiedig chyllid ar draws pob tm yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan gynnwys codi Archebion Prynu, prosesu anfonebau a hawliadau teithio, a phrynu eitemau yn unol cheisiadau deiliaid cyllidebau.
  • Cynnal codau cyllideb, llofnodwyr awdurdodedig a chaniatadau system ariannol, gan gynnwys sefydlu a dileu mynediad defnyddwyr.
  • Monitro a rheoli blwch post Cyllid Cymru, gan fod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud chyllid, a chysylltu thimau cyllid canolog er mwyn bwrw ymlaen cheisiadau a datrys problemau.
  • Cefnogi Uwch-reolwr Cynllunio ac Adnoddau i gydlynu gweithgarwch rheoli ariannol ar draws y cylch cynllunio busnes blynyddol, gan gynnwys paratoi ar gyfer rhagolygon chwarterol a chynnal cofnodion incwm ar gyfer adrodd, ymhlith pethau eraill.
  • Cefnogi'r gwaith o lunio adroddiadau cyllid a phrosiect blynyddol, gan gynnwys codi ceisiadau cofnodlyfr, sefydlu codau cyllideb newydd a chefnogi gweithgarwch diwedd blwyddyn.

Cydlynu'r Gyfarwyddiaeth a Rheoli'r Blwch Post

  • Monitro a rheoli blwch post Cyfarwyddiaeth Cymru, gan ymateb i ymholiadau arferol a dosbarthu ceisiadau i'r timau neu'r unigolion priodol, gan ddefnyddio barn i flaenoriaethu ac uwchgyfeirio lle bo angen.
  • Olrhain a mynd ar drywydd ceisiadau er mwyn sicrhau ymatebion a datrysiadau amserol.
  • Cynnal a chefnogi systemau, adnoddau tracio a phrosesau'r Gyfarwyddiaeth i sicrhau cysondeb ac effeithlonrwydd.

Cymorth Cyfarfodydd a Digwyddiadau

  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd y Gyfarwyddiaeth, gan gynnwys trefnu ystafelloedd a logisteg (lle y bo'n briodol).
  • Cefnogi'r gwaith o drefnu a chynnal digwyddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys y seremonau graddio blynyddol yng Nghymru.

Cymorth Gweinyddol, Systemau a Phrosesau

  • Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol ar draws timau, gan gynnwys llunio a fformatio dogfennau a chydlynu papurau.
  • Cefnogi'r gwaith o gynhyrchu a choladu deunyddiau briffio, adroddiadau a chyflwyniadau.
  • Cynnal systemau ffeilio cywir a chyfredol, gan sicrhau y caiff gwybodaeth gyffredinol ei thrin yn briodol.
  • Cyfrannu at y gwaith o wella prosesau gweinyddol a ffyrdd o weithio.

Cymorth Recriwtio a Chynefino

  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gweithgarwch recriwtio, gan gynnwys cydlynu thimau canolog a rheolwyr cyflogi.
  • Cefnogi'r broses gynefino ar gyfer staff newydd, gan sicrhau bod dogfennau'n cael eu cadw a chysylltu rheolwyr cyflogi a thimau mewnol (Gwasanaethau Pobl, Cyllid a TG) i sicrhau bod trefniadau cydlynol ar waith.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • Profiad amlwg mewn rl weinyddol neu gymorth busnes.
  • Sgiliau TG cryf, a'r gallu i ddysgu a defnyddio systemau newydd yn gyflym.
  • Profiad o gydweithio ar draws timau rhithwir gan ddefnyddio sgiliau TG cryf ac amrywiaeth o systemau gan gynnwys Microsoft Teams a SharePoint.
  • Y gallu i gefnogi nifer o randdeiliaid a rheoli blaenoriaethau croes yn effeithiol.
  • Sgiliau trefnu rhagorol, a'r gallu i gynllunio, blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith amrywiol.
  • Rhagweithiol a hunan-gymhellol, gan gymryd blaengaredd i ragweld anghenion ac olrhain camau hyd at eu cwblhau.
  • Sylw at fanylder ac ymrwymiad i gywirdeb.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan addasu arddull i wahanol gynulleidfaoedd.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf, gan feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol ar draws timau a rhanddeiliaid.
  • Barn a sgiliau datrys problemau cadarn, a'r gallu i flaenoriaethu, datrys problemau ac uwchgyfeirio yn briodol.
  • Aelod hyblyg a chydweithredol o dm sy'n gweithio'n dda o dan bwysau mewn amgylchedd cyflym, gan ddeall statws cyfreithiol a diwylliannol y Gymraeg yng Nghymru.
  • Y gallu i gyflawni'r rl yn unol gwerthoedd y Brifysgol ac mewn modd sy'n gyson deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisau'r Brifysgol.

Dymunol:

  • Profiad o gefnogi prosesau ariannol, gan gynnwys prosesu anfonebau, cyllidebau a rheoliadau a rheolaethau ariannol.
  • Profiad o ddefnyddio Microsoft Power BI.
  • Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol ar lefel uwch a thrin gwybodaeth sensitif yn unol GDPR a gofynion cyfrinachedd.
  • Sgiliau dylanwadu a negodi cryf, ynghyd meddylfryd gwella parhaus a ffocws ar ysgogi effeithlonrwydd.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog, ynghyd sgiliau Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu Cymraeg.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas 'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rl, cysylltwch ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr pholisau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld 'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rl hon yn cyd-fynd 'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl y bydd hyn o leiaf ddwywaith yr wythnos.

Bydd y rl hefyd yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau yn achlysurol, gyda thl goramser neu amser i ffwrdd yn lle hynny, ac mae'n bosibl y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ledled y DU o bryd i'w gilydd.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Rydym yn rhagweld y bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb ar gyfer y rl hon yn cael eu cynnal yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Awst 2026.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, maen bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn ir cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.

Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthin gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd nodweddion gwarchodedig.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

I wneud cais am y rl hon, dylech gyflwyno'r dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad personol hyd at 1000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i gymwyseddau gofynnol y rl hon fel y'u nodir yn y disgrifiad swydd.

Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Posted: July 27th, 2026